GWASANAETH TÂN AC ACHUB DE CYMRU

 

YMATEB I'R YMGYNGHORIAD AR FIL LLESIANT CENHEDLAETHAU'R DYFODOL (CYMRU)

 

 

1.         Sut dylai Llywodraeth Cymru ddeddfwriaethu i roi cynaliadwyedd a datblygu cynaliadwy wrth wraidd llywodraethu a'r sector cyhoeddus ehangach

 

            Mae'r bil yn fan cychwyn da.  Fodd bynnag, gall meysydd eraill o ddeddfwriaeth wrthdaro â chyflawniad y nodau a rhaid ystyried hwn.

 

            Ni fydd deddfwriaeth ar phen ei hun yn effeithiol; bydd angen rhoi rhaglen gynhwysfawr mewn lle i addysgu a hysbysu'r cyhoedd a chenedlaethau'r dyfodol ynghylch y nodau asut y gellir eu cyflawni orau.  Fodd bynnag, o ystyried y toriadau parhaol mewn cyllid sy'n wynebu cyrff cyhoeddus, fe all y dull hwn gael ei gyfaddawdu gan anallu'r cyrff i ddyrannu adnoddau priodol (dynol ac ariannol) i gefnogi'n effeithiol unrhyw newid arwyddocaol.

 

            Bydd hefyd angen i Lywodraeth Cymru ystyried sut fydd sector cyhoeddus Cymreig sy'n crebachu yn effeithio ar iechyd, llesiant a thlodi Cymru i'r dyfodol.

 

 

 2.        Egwyddorion cyffredinol Bil Llesiant Cenhedlaethau'r Dyfodol (Cymru)          a'r angen am ddeddfwriaeth yn y meysydd canlynol:

 

·                     Egwyddor “Nod Gyffredin” a “Datblygiad Cynaliadwy” a sefydlwyd gan y Bil a'r “Cyrff Cyhoeddus” a nodwyd

 

            Yr unig bryder yw sut y gellir cwrdd â phwrpas y Ddeddf mewn modd real ac arwyddocaol heb gasglu data'n rymus (nodweddion gwarchodedig) sy'n arddangos gwelliant llesiant i bob cymuned yng Nghymru'n glir.

 

·                     Y dull i wella llesiant, gan gynnwys gosod nodau llesiant, a sefydlu amcanion gan gyrff cyhoeddus a'r dyletswyddau a osodir ar gyrff cyhoeddus

 

                        Tra'r ystyrrir yr amcanion cyffredin fel y'u diffiniwyd yn ddilys, mae'r dull gyfan yn ddryslyd. Gallai fod yn gliriach i ganiatáu'r sector cyhoeddus i gytuno ‘amcanion cyffredin’ ar gyfer eu hardal i'w cynnwys  yn y cynllun llesiant yn hytrach na phob aelod o'r corff yn penderfynu ar eu rhai eu hunain ac yn darparu themâu fyddai'n sail i gynlluniau; felly'n adeiladau dull partner cyffredin i anghenion lleol wrth ddarparu llesiant i'r dyfodol.

 

 

 

·                     Y dull i fesur cynnydd tuag at gyflawni nodau llesiant        ac adrodd cynnydd

 

                        Mae'n bwysig gallu cymharu llwyddiant ar draws pob corff a bod yn gallu barnu gwelliant arwyddocaol ar draws holl sectorau cymdeithas.  Felly bydd angen canolbwyntio unrhyw fetrigau a ddatblygir ar ganlyniad.

 

·                     Sefydlu Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i Gymru a rôl, pwerau, cyfrifoldeb, llywodraethiant ac atebolrwydd y Comisiynydd

 

                        Mae sefydlu Comisiynydd yn iawn, ond fe gynigir y dylai Comisiynydd Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gael ei gynnwys yn y panel ymgynghori hefyd. Fodd bynnag, mae'n rhaid sicrhau na fyddai panel o'r fath yn tynnu oddi ar y nodau drwy hyrwyddo eu hagenda eu hunain ond drwy sicrhau cydymffurfedd  ac integreiddiad â chyfreithiau perthnasol.

 

·                     Sefydlu byrddau gwasanaethau cyhoeddus statudol ac asesu cynlluniau llesiant lleol

 

                        Mae cysyniad byrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi'i gorffori'n ddwfn drwy ddull byrddau gwasanaethau lleol; fodd bynnag, atgyfnerthir y cysyniad ymhellach drwy'r dull aelod statudol.  Mewn perthynas â'r Gwasanaethau Tân ac Achub, noda'r ddeddfwriaeth y dylai naill ai'r Prif Swyddog Tân, Cadeirydd yr Awdurdod Tân ac Achub, neu'r ddau fynychu.  Golyga hwn y bydd gofyn i'r Prif Swyddog Tân/Cadeirydd fynychu 10 o fyrddau, a fydd yn hynod anodd i'w gyflawni.  Gwell fyddai caniatáu'r Prif Swyddog Tân i benodi cynrychiolydd a naill ai ysgrifennu'r ddedfwriaeth fel hynny neu ganiatáu i ddirprwyaeth y Prif Swyddog Tân benodi cynrychiolydd.  Byddai cam o'r fath yn caniatáu'r Gwasanaeth i strwythuro'i ddull i gyrff sector cyhoeddus yn fwy effeithiol.

 

                        Mae hefyd angen ystyriaeth gofalus o ddeddfwriaeth sy'n bodoli eisoes, megis Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 sy'n sefydlu partneriaethau diogelwch cymunedol, a sut fydd y strwythurau hyn yn integreiddio â'r byrddau'r gwasanaethau cyhoeddus.

 

 

3.         Pa mor effeithiol fydd y Bil yn mynd i'r afael â rhwymedigaethau rhyngwladol Cymreig mewn perthynas â datblygu cynaliadwy

 

            Wrth iddo gael ei gydnabod bod gennym effaith y tu hwnt i'n ffiniau a bod Llywodraeth Cymru'n cyfrannu at rwydwaith llywodraeth leol ar gyfer datblygu cynaliadwy, dim ond pan gawn llwyddiant o fewn Cymru y medrwn ddylanwadu ar eraill mewn gwirionedd.  Ni ddylid cyfaddawdu nodau'r Bil hwn na'r hyn y golygwyd iddo'i gyflawni yng Nghymru gan yr hyn sydd angen ei gyflawni'n rhyngwladol gan, yn aml, bydd hyn y tu hwnt i'n rheolaeth neu faes ein prif ddylanwad.

 

4.         Unrhyw rwystrau posib i weithrediad y darpariaethau hyn a ph'un ai ydy'r Bil yn atebol iddynt

 

            Nid yw'r Bil yn ddigon penodol.  Mae'n aneglur sut y cyflawnir yr amcanion ac efallai byddai'n well cyflwyno themâu lle gellir fframio'r cynlluniau.  Yn ogystal, mae'n aneglur sut y caiff sefydliadau eu harchwilio mewn perthynas â'u cydymffurfedd â darpariaethau'r Bil.  Hefyd, sut caiff byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu harchwilio parthed eu cyd gyfraniad i wella llesiant cymunedol ar draws ardal ranbarthol neu isranbarthol fawr?

 

 

5.         Pu'n ai oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol sy'n codi o'r Bil

 

            Mae gwrthdaro posib â darnau eraill o ddeddfwriaeth a hefyd mae gwrthdaro posib gan fentrau cenedlaethol eraill sy'n digwydd/arfaethedig.

 

            Bydd angen ystyried rôl strwythurau sy'n gwrthdaro: byrddau cydweithredol rhanbarthol, partneriaethau diogelwch cymunedol a rhanbarthoedd dinesig presennol.

 

 

6.         Goblygiadau ariannol y Bil (fel y caiff ei nodi yn rhan 2 o'r memorandwm esboniadol a'r asesiad effaith rheoleiddiol, sy'n amcangyfrif costau a buddion gweithredu'r Bil)

 

            Tra fod y memorandwm esboniadol yn archwilionifer o opsiynau cost, nid yw'n eglur pa mor gywir yw'r costau hyn. Mae'n rhaid cofio fod y sector cyhoeddus Cymreig yn wynebu toriadau digyffelyb i gyllidebau a'u bod yn ymgysylltu â chymunedau ynghylch toriadau gwerth amryfal filiynau o bunnoedd i'w cyllidebau i gyflwyno anghenion sydd mewn effaith yn gosod beichiau ychwanegol ar gyrff y sector cyhoeddus, ond na fydd o bosib er lles pawb ar hyn o bryd.

 

 

7.         Priodoldeb pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymreig gyflawni deddfwriaeth israddol (fel y nodwyd ym Mhennod 5 o Ran 1 o'r memorandwm esboniadol, sy'n cynnwys tabl yn crynhoi pwerau Gweinidogion Cymreig i gyflawni deddfwriaeth israddol)

 

            Tra y gall fod yn synhwyrol fod gan Weinidogion Cymreig y pwerau hyn, bydd angen ystyriaeth gofalus ar eu defnydd yng nghyswllt y sylwadau ynghynt yn yr ymateb hwn ynghylch cyllidebau.

 

            Dylai deddfwriaeth israddol a Gweinidogion Cymreig sefydlu'r weledigaeth a chaniatáu partneriaid lleol i ddatblygu cynlluniau darparu i sicrhau dyfodol llesiant yr unigolion, y teuluoedd a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.